Prosiectau
Jiwsi
Mae Prosiect Jiwsi, sy’n cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi bod yn weithredol ers 2002 gyda Mel wrth yr awenau ers iddo gael ei sefydlu, yn gyntaf gyda FPA a bellach gyda Cwmni Addysg Rhyw.
Mae'r prosiect yn darparu rhaglenni perthnasoedd ac addysg rhyw (RSE) datblygiadol wedi’u harwain gan anghenion a’u cyd-gynhyrchu, i blant a phobl ifanc bregus hyd at 25 oed.
Mae'r prosiect hefyd yn darparu rhaglenni hyfforddi ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a staff sefydliadau partner i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau wrth weithio gyda phobl ifanc fregus ac iechyd rhywiol. Rydym hefyd yn cynnal rhwydwaith ymarferwyr RSE; Rhwydwaith Jiwsi, i weithwyr proffesiynol ledled Gogledd Cymru i rannu a datblygu eu harferion RSE. Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal seminarau datblygu ymarfer am ddim i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, hyder a rhwydweithio parhaus a strwythurau cefnogi anffurfiol.
Sparc
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal prosiect cyffrous newydd ar y cyd â Chymdeithas Cyngor Eiriolaeth Gogledd Cymru ynghylch cefnogi a galluogi cyfeillgarwch a pherthnasoedd rhamantus i oedolion ag anableddau dysgu. Drwy gynhyrchu ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau, rydym yn hwyluso gweithdai a digwyddiadau i bobl ag anableddau dysgu, eu staff cymorth a’u rhieni/gofalwyr i feithrin dealltwriaeth o hawliau a chyfrifoldebau ac i ddatblygu hyder defnyddwyr gwasanaethau i wneud ffrindiau newydd a chael perthnasoedd rhamantus os dymunant.
Cerdyn C
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cydgysylltu cynllun Cerdyn C Gogledd Cymru ar gyfer dosbarthu condomau am ddim, lube a chyngor iechyd rhywiol.
Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni ar ccard@sexeducationcompany.org