Gwybodaeth Cerdyn C i rieni a gofalwyr

Beth yw Cerdyn C?

Rhaglen iechyd cyhoeddus yw Cynllun Cerdyn C Gogledd Cymru sy’n canolbwyntio ar ddosbarthu condomau am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed. Mae’n cael ei gynnal mewn sawl ardal o’r DU. 

Yng Ngogledd Cymru rydym yn rhan o Gynllun Cerdyn C Cymru Gyfan

Elfen allweddol o’r cynllun yw’r cysylltiad wyneb yn wyneb rhwng y bobl ifanc sy’n dymuno cael condomau am ddim ac aelod o staff hyfforddedig Cerdyn C sy’n darparu addysg rhyw diogelach, cymorth, cyswllt â gwasanaethau lleol a chyfle i bobl ifanc leisio unrhyw bryderon posibl.  

Gall staff hyfforddedig wedyn eu rhoi mewn cysylltiad â’r gwasanaethau cywir er mwyn cael rhagor o gefnogaeth pan fo angen.

Gall pobl ifanc ddefnyddio eu Cerdyn C i gael condomau am ddim gan ysgolion, colegau, clinigau iechyd rhyw a chanolfannau eraill. Mae hyn yn helpu pobl ifanc i gael condomau yn rhwydd pan fydd angen.


Pwy sy’n gallu rhoi’r Cerdyn C:

Mae gweithwyr proffesiynol a staff fel nyrsys, meddygon teulu, athrawon, gweithwyr ieuenctid wedi eu hyfforddi i roi Cerdyn C a chondomau i bobl ifanc. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys dulliau atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), rhyw a’r gyfraith (sy’n cynnwys gwybodaeth am gydsynio a diogelu), ymarfer gynhwysol, cyfeirio, a defnyddio platfform gweinyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y cynllun.

Mae’n bwysig fod pobl ifanc yn gwybod i ble i fynd i drafod materion a phryderon sy’n ymwneud â’u iechyd rhywiol pan fyddant angen. Profwyd fod hyn yn helpu i’w cadw’n fwy diogel. 

Gall rhieni / gofalwyr a’r staff sy’n gweithio â nhw wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu person ifanc i gael yr wybodaeth a’r sgiliau i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â’u hiechyd rhywiol eu hunain a’u lles, ac yn bwysicach fyth, i’w helpu i’w cadw’n ddiogel.


A yw’r Cynllun Cerdyn C yn gyfreithlon?


Ydi, mae’n gyfreithlon.  Nid oes unrhyw gyfraith yn gwahardd pobl ifanc, gan gynnwys rhai dan 16 oed, rhag cael mynediad i gondomau. 


Nid yw llawer o’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r cynllun Cerdyn C yn weithredol yn rhywiol eto. Maen nhw’n dysgu am y gwasanaethau a fydd yn eu helpu i gadw’n iach a diogel pan fydd eu hangen arnynt.

Gall staff gadw’r sgyrsiau gyda phobl ifanc yn gyfrinachol. Nid yw hyn yr un peth â ‘chyfrinach’. Os yw aelod staff yn poeni neu’n pryderu am ddiogelwch person ifanc sy’n cael mynediad i Gerdyn C bydd yn rhoi gwybod i’w arweinydd diogelu, yn ôl polisi eu sefydliad, a gallai’r arweinydd diogelu gyfeirio’r pryder ymlaen i’r gwasanaethau priodol.


Ceir deddfwriaeth ar gyfer cyfrinachedd ac iechyd rhywiol i rai o dan 16 oed dan Ganllawiau Fraser <https://learning.nspcc.org.uk/child-protection-system/gillick-competence-fraser-guidelines>. Dyfarniad cyfreithiol yw’r rhain sy’n gysylltiedig â chyngor a thriniaeth iechyd rhywiol.  Er nad ydynt yn rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyfer Cerdyn C, rydym yn eu defnyddio fel rhan o’n hymarfer gorau.  


Pam y rhoddir condomau i berson dan 16 oed?


Er mai’r oed cyfreithlon ar gyfer rhyw yw 16 oed yn y DU, mae rhai pobl ifanc yn cael rhyw pan fyddant yn iau na’r oedran hwn. Gallai canlyniadau beichiogrwydd heb ei gynllunio neu ddal haint a drosglwyddir yn rhywiol gael effaith ddifrifol ar eu bywyd. Rhan allweddol o gofrestru i gael Cerdyn C yw trafod oedran cydsynio. Mae  Canllawiau Fraser yn cael eu cymhwyso i sicrhau fod y person ifanc yn deall yn hollol.  


Ydych chi’n annog pobl ifanc i gael rhyw?


Na, mae rhoi mynediad i bobl ifanc i gondomau yn rhad ac am ddim yn darparu cyfleoedd allweddol i rannu gwybodaeth gywir a’r wybodaeth ddiweddaraf am ryw a pherthnasoedd, cydsyniad, trosglwyddo heintiau yn rhywiol a beichiogrwydd heb ei gynllunio.  Mae hyn yn caniatáu iddynt wneud dewisiadau deallus ynglŷn ag ydynt yn barod i gael rhyw ai peidio.  


Gall Cynllun Cerdyn C hefyd roi person ifanc mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth eraill fel eu bod yn gallu archwilio perthnasoedd a rhyw yn ddiogel.


 I grynhoi:



Cofrestru i gael Cerdyn C


Efallai bod person ifanc eisoes wedi cael y sgwrs gyda rhiant / gofalwr ynglŷn â chofrestru â Chynllun Cerdyn C.  Fodd bynnag, gallai rhai pobl ifanc ddewis trafod â ffrindiau, a gallai rhai ddewis cadw pethau iddyn nhw eu hunain.  

Fel y gwyddom mae pobl ifanc yn aml yn chwilfrydig, felly er nad ydynt yn weithredol yn rhywiol efallai eu bod eisiau ymgynefino â’r broses o gofrestru i gael Cerdyn C.  Beth bynnag fo’u sefyllfa, os byddant yn penderfynu cofrestru i gael Cerdyn C byddant yn derbyn yr holl gymorth, cyngor a’r addysg rhyw mwy diogel sydd ei angen arnynt i’w diogelu eu hunain rhag beichiogrwydd heb ei gynllunio a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, boed hynny nawr neu yn y dyfodol.  


Mae’r broses gofrestru yn cymryd tua 20 munud; mae aelod staff hyfforddedig, a allai eisoes fod yn gweithio gyda’r person ifanc mewn modd arall, yn gofyn cyfres o gwestiynau i’r person ifanc i benderfynu a oes ganddo ddealltwriaeth gadarn o ryw ai peidio a sut i gadw’i hun yn ddiogel (Canllawiau Fraser <https://learning.nspcc.org.uk/child-protection-system/gillick-competence-fraser-guidelines>).  


Mae ymarferwyr yn ystyried unrhyw bryderon diogelu. Er enghraifft:


Ar ôl nifer benodol o ymweliadau, bydd adolygiad yn cael ei drefnu gyda’r person ifanc.  Mae hyn yn gyfle i gael sgwrs a darparu rhagor o addysg.  Mae hefyd yn gyfle i’r bobl ifanc ofyn unrhyw gwestiynau neu drafod unrhyw bryderon posibl sydd ganddynt o ran perthnasoedd neu iechyd rhywiol yn gyffredinol. Gall staff drefnu dyddiadau adolygu mynych os yw hynny o fudd i’r person ifanc.


Mae cwricwlwm perthnasoedd ac addysg rhyw (RSE) yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gael mynediad at berthnasoedd ac addysg rhyw, gan gynnwys rhyw diogelach.  Felly mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn debygol o wybod mai condomau yw’r rhwystr gorau i’w diogelu eu hunain a’u partneriaid mewn perthynas rywiol rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, a hefyd rhag beichiogrwydd heb ei gynllunio.  Er hynny, ers y pandemig mae bylchau wedi bod yn yr wybodaeth. Mewn rhai lleoliadau, collodd grwpiau o bobl ifanc y cyfle i dderbyn addysg gyson am iechyd rhywiol. Felly, mae unrhyw gyfleoedd addysgiadol i bobl ifanc yn hynod werthfawr.


Mae cael eu grymuso i wneud dewisiadau iach deallus ynglŷn â’u hiechyd rhywiol yn dod yn rhan bwysig o les pobl ifanc, ar gyfer eu presennol a’u dyfodol, a hefyd gwybod ym mhle mae cael gafael ar gymorth gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig sy’n hawdd siarad ag ef o fewn eu darpariaeth neu yn rhywle arall.


Mae cael mynediad i gynllun Cerdyn C yn benderfyniad personol a gall fod yn rhywbeth y gallai person ifanc ei ystyried yn y dyfodol, neu ddim o gwbl. Fodd bynnag, os a phan fydd yn barod, mae’n golygu un rhwystr yn llai os bydd yn gwybod i ble i fynd a sut mae’n gweithio.


Gweler rhagor o ddolennau isod: