Cyrsiau hyfforddi
Hyfforddiant Gwaith Rhyw a Pherthnasoedd Jiwsi
Mae’r cwrs deuddydd hyn yn cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar gyfer ei staff a sefydliadau partner yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cynnal y cwrs ar ffurf rhaglen dreigl ledled Gogledd Cymru.
Nod: Cynyddu ymwybyddiaeth, hyder a sgiliau cyfranogwyr er mwyn gweithio’n fwy effeithiol â materion sy’n ymwneud ag iechyd rhywiol a phobl ifanc fregus.
Cost: rhad ac am ddim i staff a phartneriaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, neu £170 yr un (lleiafrif o 10 o bobl) am gyrsiau preifat.
Trafod perthnasoedd a rhyw gyda phobl ifanc
Gall gwybod sut i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc am berthnasoedd a rhyw fod yn heriol. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi canllawiau clir i weithwyr proffesiynol ac mae’n rhoi’r cyfle i ymarfer sgiliau a chynyddu hyder.
Nod: Datblygu hyder staff pan fyddant yn siarad â phobl ifanc am berthnasoedd, iechyd rhywiol, rhywioldeb a rhyw.
Cost: £1,200 am gwrs
Datblygu hyder ym maes gwaith rhyw a pherthnasoedd
Cwrs deuddydd wedi’i fwriadu i ddatblygu hyder staff pan fyddant yn gweithio â phobl ifanc ac iechyd rhywiol, rhywioldeb a pherthnasoedd a rhyw.
Canlyniadau dysgu
Deall deddfwriaeth gyfredol a deddfwriaeth sy’n dod i’r amlwg a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â phobl ifanc a gweithgaredd rhywiol
Archwilio eu gwerthoedd a’u hagweddau eu hunain mewn perthynas â gweithgaredd rhywiol, hunaniaeth a chyfeiriadedd rhywiol
Ymarfer ymateb yn gynhwysol i gwestiynau gan bobl ifanc
Archwilio ystod o bynciau RSE gan gynnwys, caniatâd, condoms, dulliau atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a phornograffi
Nodi sut i gyfeirio pobl ifanc at wasanaethau iechyd rhywiol yn effeithiol
£200 yr un (lleiafrif o 10 o bobl ar gyfer cyrsiau preifat)
Mastyrbio: Gweithio gyda Phobl ag Anableddau Dysgu
Rydym yn cael llawer o geisiadau am gymorth ac arweiniad ar y mater hwn gan ymarferwyr sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu. Rydym wedi datblygu'r cwrs hyfforddi ymarferol unigryw hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
Nod: Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, i alluogi cleientiaid i fastyrbio yn ddiogel ac yn effeithiol os byddant yn dewis gwneud hynny.
Cost: £1,400 am gwrs
Hyfforddiant Gweithlu Sparc
Prosiect yng Ngogledd Cymru yw Sparc. Mae'n gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu, eu rhieni a'r bobl sy'n gweithio gyda nhw. Mae Sparc yn ddarparu sesiynau hyfforddi ar gyfeillgarwch, perthnasoedd a rhyw fel bod oedolion ag anableddau dysgu yn dod yn fwy hyderus gyda pherthnasoedd ac wrth ddêtio.
Mae ei ddiwrnod hyfforddi yn seiliedig ar ein profiad o gyflawni’r gwaith hwn, a’r hyn y mae’r cymunedau anabledd dysgu a/neu awtistig wedi dweud wrthym sut y byddai’n well ganddynt gael cymorth.
Adeiladu hyder i gefnogi hawliau a chyfleoedd i oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth gael cyfeillgarwch hapus ac iach, perthnasoedd rhamantus a rhyw.
Canolbwyntio ar archwilio a chael gwared o’r rhwystrau sy’n wynebu oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth wrth iddynt lunio a chynnal cyfeillgarwch positif a pherthnasoedd rhamantus.
Yn ystod y diwrnod bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i
Archwilio manteision cyfeillgarwch, perthnasoedd a rhyw iach a bodlon
Canfod yr elfennau sy’n rhwystro’r uchod, ac sy’n codi o ganlyniad i strwythur cymdeithasol ehangach a sefyllfaoedd o fewn y gweithle
Ystyried y gyfraith a’r ddeddfwriaeth sy’n amlinellu hawliau’r unigolyn i berthnasoedd a bywyd preifat
Archwilio ymarfer gorau wrth hwyluso a chefnogi perthnasoedd a chyfeillgarwch
Cael y cyfle i greu cynllun gweithredu pwrpasol i rannu gwybodaeth a chefnogi cydweithwyr o fewn eu gweithle
Cost: £1,200 (hyd at 16 o gyfranogwyr)
Hyfforddiant pwrpasol: Gallwn ddatblygu a chyflwyno cyrsiau addysg rhyw a pherthnasoedd pwrpasol yn seiliedig ar eich anghenion o ran hyfforddiant ac ymarfer. Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.