
Hyfforddiant i staff
Rydym yn darparu cyrsiau hyfforddi ARhP wyneb yn wyneb neu ar-lein i staff
Mae ein profiad o gyflawni prosiectau yn y byd eang yn ein galluogi i ddarparu cynnwys hyfforddi ymarferol a pherthnasol sy'n rhoi'r gwybodaeth, y sgiliau a'r hyder i staff adeiladu eu harfer.
Mae gennym ni amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi ar gael.
Gallwn hefyd ddylunio a chyflwyno pecynnau pwrpasol i ddiwallu anghenion hyfforddi ac ymarfer, cysylltwch a ni am ragor o wybodaeth.

Hyfforddiant Gweithlu Sparc
Cwrs un diwrnod - wyneb yn wyneb neu ar-lein
Yn seiliedig ar ein Prosiect Sparc, sy'n darparu gwaith ARhP yn seiliedig ar hawliau i oedolion ag anableddau dysgu fel eu bod yn dod yn fwy hyderus ynglyn a dyddio a pherthnasoedd.
Mae'r diwrnod hyfforddi staff yma yn seiliedig ar ein profiad o gyflawni'r gwaith hwn, a'r hyn y mae'r cymunedau anabledd dysgu a/neu awtistig wedi'i ddweud wrthym am sut y byddent yn well ganddynt gael eu cefnogi.
Mae'r cwrs diwrnod yma yn canolbwyntio ar archwilio a dileu rhwystrau y mae oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn eu hwynebu wrth ffurfio a chynnal cyfeillgarwch cadarnhaol a pherthnasoedd rhamantus. Dewch yn hyderus wrth gefnogi hawliau a chyfleoedd oedolion ag anableddau dysgu yn y maes yma.
Yn ystod y dydd bydd y cyfranogwyr yn:
■ Archwilio manteision cyfeillgarwch, perthnasoedd a rhyw iach a boddhaus
■ Adnabod rhwystrau i'r uchod
■ Ystyried y gyfraith a deddfwriaeth sy'n amlinellu hawliau unigolion i berthnasoedd a bywyd preifat
■ Archwilio arfer gorau wrth hwyluso a chefnogi perthnasoedd a chyfeillgarwch
■ Cael cyfle i greu cynllun gweithredu pwrpasol i rannu gwybodaeth a chefnogi cydweithwyr yn eu gweithle

Siarad â phobl ifanc am berthnasoedd a rhyw
Cwrs un diwrnod - wyneb yn wyneb neu ar-lein
Gall gwybod sut i gyfathrebu a phlant a phobl ifanc am berthnasoedd a rhyw fod yn heriol. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi map ffordd clir i weithwyr proffesiynol, gyda cyfle i ymarfer sgiliau a chynyddu hyder.
Nod : Meithrin hyder staff wrth siarad a phobl ifanc am berthnasoedd, iechyd rhywiol, rhywioldeb a rhyw.

Hyfforddiant cyflwyno addysg rhyw a perthnasoedd
Dau ddiwrnod - wyneb yn wyneb neu ar-lein
Mae'r cwrs deuddydd yma wedi'i gynllunio i roi sylfaen gadarn o wybodaeth, sgiliau a hyder, fel y gall staff gynllunio a chyflwyno eu sesiynau ARhP effeithiol eu hunain.
Nod : Cynyddu ymwybyddiaeth, hyder a sgiliau cyfranogwyr i weithio'n fwy effeithiol gyda materion sy'n ymwneud a pherthnasoedd, iechyd rhywiol a phobl ifanc.
Mae canlyniadau dysgu yn cynnwys:
● Archwilio anghenion ARhP y bobl ifanc rydyn ni'n gweithio gyda nhw
● Cael dealltwriaeth o’r gyfraith sy’n ymwneud a phobl ifanc ac iechyd rhywiol a sut mae hyn yn effeithio ar gyfrinachedd a diogelu
● Cael dealltwriaeth sylfaenol o faterion iechyd rhywiol allweddol, gan gynnwys condomau, atal cenhedlu a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
● Cyfathrebu'n effeithiol am iechyd rhywiol a materion cysylltiedig a phobl ifanc
● Cael gwybodaeth am adnoddau perthnasol i gefnogi ARhP
● Dylunio a chynllunio sesiynau ARhP

Mislif Balch
Hanner diwrnod - wyneb yn wyneb neu ar-lein
Sesiwn 3 awr i hyfforddi staff wedi'i chynllunio i gynyddu gwybodaeth a hyder wrth gyfathrebu am fislif a chynhyrchion mislif.
Mae canlyniadau dysgu yn cynnwys:
● Diweddaru gwybodaeth am fislif a'r cylchred mislif
● Ymarfer iaith gynhwysol wrth siarad am fislif
● Archwilio amrywiaeth o gynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio neu tafladwy
● Cynyddu hyder wrth gyfathrebu am fislif a chynhyrchion mislif

Mastyrbio, Awtistiaeth ac Anableddau Dysgu
Cwrs un diwrnod - wyneb yn wyneb neu ar-lein
Rydym yn derbyn nifer o geisiadau am gefnogaeth ac arweiniad ar y mater hwn. Rydym wedi datblygu'r cwrs hyfforddi unigryw ac ymarferol yma ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
Dyma'r cwrs gwreiddiol o'i fath ac fe'i cynlluniwyd gan Mel Gadd, awdur Masturbation, Autism and Learning Disabilities .
Mae'r cwrs yma i gefnogi ymarferwyr, sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, i alluogi cleientiaid i fastyrbio'n ddiogel ac yn effeithiol os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Mae canlyniadau dysgu yn cynnwys:
• Gwybodaeth gyfreithiol ac ymatebion arfer da ynghylch mastyrbio
• Archwilio amrywiaeth o agweddau a gwerthoedd
• Nodi ffyrdd y gallwn gefnogi hawl ein cleient i fastyrbio
• Dod o hyd i adnoddau priodol, eu defnyddio a'u haddasu


