
Ymgynghoriaeth
Rydym yn darparu gwasanaethau ymgynghori ar draws amrywiaeth o anghenion a sefyllfaoedd
● Rhaglenni neu weithdai ARhP wedi'u teilwra
● Gwaith un i un neu mewn grwpiau bach gyda chleientiaid
● Datblygu polisi a chanllawiau
● Datblygu adnoddau a chynhyrchion
● Hyfforddi a mentora staff
● Cyngor ac arwyddio
Cysylltwch a ni am ragor o wybodaeth ac i drafod eich anghenion.

Sgiliau ar gyfer Gallu
Gall Cwmni Addysg Rhyw gynnig addysg un i un am berthnasoedd a rhyw i unigolion y mae eu gallu i ymgysylltu mewn perthynas rywiol dan sylw.
Bydd ein hymarferwyr profiadol iawn yn gweithio gydag unigolion i gwmpasu'r meysydd allweddol o ddealltwriaeth sy'n ofynnol er mwyn gallu ymgysylltu'n gyfreithlon mewn perthynas rywiol;
■ mecaneg y weithred rywiol; beth yw rhyw - yn dibynnu ar y math o ryw y gallech fod yn ei gael
■ y canlyniadau posibl a/neu'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig a chyfathrach rywiol – beichiogrwydd (yn dibynnu ar bwy sy'n cael rhyw) a/neu heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (HTRh)
■ y gellir lleihau'r risg o HTRh a/neu feichiogrwydd trwy gymryd rhagofalon fel defnyddio condomau a/neu dulliau atal cenhedlu
■ bod gennych chi a'r person arall yr hawl i ddweud na i ryw a'ch bod chi'n gallu cyfleu hyn
■ rhaid i'r person arall hefyd fod a'r gallu i gydsynio i'r gweithgaredd rhywiol a rhaid iddynt gydsynio cyn ac drwy gydol y gweithgaredd rhywiol.
Mae Cwmni Addysg Rhyw yn gweithio gyda'r unigolyn a phartïon cefnogol i asesu a sefydlu meysydd o angen blaenoriaeth a gall ddarparu addysg ynghylch meysydd eraill fel perthnasoedd iach, y Ddeddf Troseddau Rhywiol neu iechyd rhywiol yn ôl yr angen neu'n briodol.
