top of page
addysgrhyw-turquoise.png

prosiectau

Lles trwy berthnasoedd cynhwysol ac addysg rhyw

Sparc Sex Education Training

Mêts a Dêts

Wedi'i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae Mêts a Dèts yn brosiect a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu sy'n byw yng Ngwynedd ac sydd a diddordeb mewn gwella eu sgiliau i ffurfio a chynnal perthnasoedd cymdeithasol, rhamantus ac agos.


Mae prosiect Mêts a Dèts yn fenter 12 mis sy'n adeiladu ar raglen Sparc yn dilyn pedair blynedd lwyddiannus. Fe'i cynlluniwyd i gyfarfod angen cymunedol a nodwyd yn glir; wrth i gyfranogwyr ddymuno mwy o gyfleoedd i gysylltu'n gymdeithasol a datblygu'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen i gynnal perthnasoedd.


Rydym yn cyflwyno gweithdai arloesol ar berthnasoedd a dyddio ochr yn ochr a digwyddiadau cymdeithasol lled-strwythuredig. Mae'r gweithdai'n cynwys pynciau craidd fel cyfathrebu, ffiniau iach a chydsyniad, yn ogystal a sgiliau dyddio ymarferol fel sut i fflirtio neu baratoi 'noson ddyddio'.


Drwy gyfuno dysgu strwythuredig a chyfleoedd cymdeithasol diogel, mae'r prosiect yn anelu at rymuso cyfranogwyr, gwella lles, lleihau unigedd, a hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant a pherthnasoedd iach ledled Gwynedd. Mae digwyddiadau cymdeithasol, a gynhelir mewn lleoliadau cymunedol hygyrch, yn caniatau i gyfranogwyr ymarfer y sgiliau newydd hyn mewn lleoliadau byw wrth hyrwyddo gwelededd pobl ag anableddau dysgu mewn lleoliadau bob dydd.


Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn cysylltwch a corrina@sexeducationcompany.org

Sparc Sex Education Training

Cynllun Cerdyn-C Gogledd Cymru

Rydym yn cydlynu Cynllun y Cerdyn C yng Ngogledd Cymru ar ran BCUHB

Mae cynllun y Cerdyn-C yn dosbarthu condomau am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed yng Ngogledd Cymru.


Mae'n wasanaeth cyfrinachol sydd hefyd yn cynnig gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb am iechyd rhywiol a pherthnasoedd gan aelod staff hyfforddedig.


Mae condomau yn helpu i atal beichiogrwydd heb ei gynllunio a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.


 Ein Hadnoddau:

 Gwybodaeth am Gerdyn C i bobl ifanc

 Gwybodaeth am Gerdyn C i rieni a gofalwyr

 Gwybodaeth PDF hawdd ei ddarllen am Gerdyn C

Sparc Sex Education Training

Jiwsi

Wedi'i ariannu gan BCUHB

Mae Prosiect Jiwsi yn darparu rhaglenni datblygiadol, wedi'u cyd-gynhyrchu ac sy'n cael eu harwain gan anghenion, ar gyfer ARhP gyda phlant a phobl ifanc hyd at 25 oed sy'n byw yng Ngogledd Cymru ac sy'n gwynebu heriau ychwanegol yn eu bywydau.


Mae'r prosiect hefyd yn darparu rhaglenni hyfforddi i staff BCUHB a sefydliadau partneri i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau wrth weithio gyda phobl ifanc agored i niwed ac iechyd rhywiol.


Rydym yn rhedeg rhwydwaith ymarferwyr ARhP; Rhwydwaith Jiwsi, i weithwyr proffesiynol ledled Gogledd Cymru rannu a datblygu eu harferion ARhP. Fel rhan o hyn rydym yn cynnal seminarau datblygu ymarfer am ddim i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, hyder a rhwydweithio parhaus a strwythurau cymorth anffurfiol.


Am ragor o wybodaeth ac i archebu sesiwn cysylltwch â mel@sexeducationcompany.org

Sparc Sex Education Training

Sparc

Chwilio am gyllid ar hyn o bryd

Mae Sparc yn brosiect sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu, gan gefnogi a galluogi sgiliau a hyder o amgylch cyfeillgarwch, dyddio, perthnasoedd rhamantus a rhyw.


Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant i staff, fel y gallant gefnogi hawliau eu cleientiaid i gael mynediad i amrywiaeth o berthnasoedd rhyngbersonol.


Am ragor o wybodaeth cysylltwch â corrina@sexeducationcompany.org

addysgrhyw-turquoise.png

Roedd y gweithiwr prosiect yn anhygoel, gwnaeth i'r merched deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, gan eu galluogi i roi eu barn a gofyn cwestiynau.

bottom of page