top of page
addysgrhyw-turquoise.png

SEX EDUCATION COMPANY

Cwmni Addysg Rhyw

Llesiant drwy berthnasoedd cynhwysol ac addysg rhyw

AMDANA NI

Pwy ydan ni

 

Mae Cwmni Addysg Rhyw yn fenter gymdeithasol sy'n darparu hyfforddiant, gwasanaethau a phrosiectau addysg rhyw a pherthnasoedd.

 

Mae gan ein staff gyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad o ran darparu addysg perthnasoedd a rhyw o ansawdd uchel ac o weithio gyda grwpiau sy'n agored i niwed a/neu grwpiau na chlywir yn aml.

 

Ein Gweledigaeth:

 

Llesiant drwy berthnasoedd cynhwysol ac addysg rhyw.

 

 

sex ed co 3.jpg

DATGANIAD CENHADAETH

Rydym yn datblygu a chyflwyno addysg a hyfforddiant pwrpasol, onest, cynhwysol, hygyrch a difyr ar dyfu i fyny, perthnasoedd a rhyw, er mwyn galluogi pawb i ddatblygu'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus o ran iechyd a lles.

CWMNI ADDYSG RHYW!

Ein Hamcanion

I gyflwyno addysg perthnasoedd a rhyw sy’n onest, cynhwysol a hygyrch i bobl ifanc fregus ac oedolion ifanc

I hyfforddi a datblygu gweithwyr proffesiynol i gyflwyno addysg perthnasoedd a rhyw o safon uchel

Image by Marek Studzinski

CWMNI ADDYSG RHYW!

Ein Gwerthoedd

Dull gweithredu seiliedig ar hawliau â pherthnasoedd ac addysg rhyw

Defnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth gyfredol orau

Cynhwysiant a hygyrchedd

Gwybodaeth ddi-lol a phlaen

Addysg perthnasoedd a rhyw ragweithiol ac amserol

Negeseuon cadarnhaol ynglŷn â pherthnasoedd a rhyw

Parchu dewis personol

bottom of page